WQ89662 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2023

A wnaiff y Comisiwn ddarparu'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad mewnol ynghylch pa ddarlledwyr y caniateir iddynt gael eu dangos ar system deledu fewnol y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 06/12/2023

Mae'r Comisiwn wedi gofyn i un o'i Gynghorwyr Annibynnol gynnal adolygiad o system ddarlledu fewnol y Senedd. Bydd yr adolygiad  o gymorth i’r Comisiwn wrth iddo geisio datblygu protocol darlledu, i ddarparu eglurder o ran y sianeli sydd ar gael ar system deledu fewnol y Senedd ar gyfer y dyfodol.