WQ89647 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2023

Pa ystyriaeth mae’r Llywodraeth wedi rhoi ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari, yn sgil deiseb ddiweddar Target Ovarian Cancer a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o'r symptomau?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 28/11/2023

Er nad oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i gyflwyno ymgyrchoedd cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser, gan gynnwys canser yr ofarïau, rydym bob amser yn barod i weithio gydag elusennau canser i hyrwyddo unrhyw negeseuon, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ynghylch ceisio cymorth a chyngor gan y GIG. Dylai unrhyw un sy'n pryderu am newidiadau sylweddol neu hir i'w hiechyd corfforol ofyn am gyngor eu meddyg teulu bob amser.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cyflwyno adnodd cymorth digidol ar gyfer penderfyniadau a hyfforddiant, i helpu gwasanaethau gofal sylfaenol i reoli  atgyfeiriadau. Yn ogystal, mae'r GIG yng Nghymru wedi sicrhau bod Canolfannau Diagnostig Cyflym ar gael i'r boblogaeth gyfan, fel bod ymchwiliadau cyflym yn digwyddar gyfer pobl sydd â symptomau canser annelwig.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i'r GIG ddarparu llwybrau carlam ar gyfer canser, gan gynnwys canser yr ofarïau, o'i gymharu â'r holl gyflyrau eraill. Er mwyn i'r rhai sy'n cael diagnosis o ganser ddechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth, mae angen i unrhyw ymchwiliadau gael eu gwneud ar frys. Yn ogystal, mae'r llwybr delfrydol cenedlaethol ar gyfer canser yr ofarïau yn llywio’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau'r GIG. Mae'n cynnwys atgyfeirio yn syth at brofion ar ddechrau'r llwybr a chwblhau cam diagnostig y llwybr o fewn 28 diwrnod.