WQ89599 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2023

Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r Llwybr Optimaidd Cenedlaethol ar gyfer Canser y Pancreas ar waith?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/11/2023

Cyfrifoldeb byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru yw gweithredu'r Llwybrau Delfrydol Cenedlaethol ar gyfer Canser, gan gynnwys canser y pancreas. Dyma ddolen at y llwybr, er gwybodaeth:

https://gweithrediaeth.gig.cymru/rhwydweithiau-a-chynllunio/canser/hwb-clinigol/grwpiau-safleoedd-canser1/canserau-gastroberfeddol-uwch/mathau-o-ganser-y-pancreas/

Bwriad y llwybrau yw arwain y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau'r GIG, fel bod y GIG yng Nghymru yn darparu gofal cyson, yn unol â safonau proffesiynol a'r targed amser aros ar gyfer canser.

Mae'r llwybrau'n heriol iawn, yn cynnwys amseroldeb cerrig milltir a bydd cyflawni gofynion amseroldeb y llwybrau yn amrywio dros amser yn dibynnu ar newidiadau yn y galw am ymchwiliad a thriniaeth.

Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw adeg benodol mewn amser pryd y gellir ystyried bod llwybr wedi'i gyflawni, gan y bydd angen ei gyflawni'n gyson, a bydd y pwysau ar wasanaethau diagnostig a thriniaeth yn newid.