WQ89514 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ariannu'r gyllideb adran materion gwledig yn 2024-25?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 09/11/2023

Rydw i’n cydweithio’n agos gyda’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd a’n cydweithwyr yn y Cabinet i lunio ein cynlluniau gwario ar gyfer 2024-25. Caiff y manylion eu cyhoeddi yn ein Cyllideb Ddrafft 2024-25 ar 19 Rhagfyr.