WQ89513 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2023

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol y gwasanaeth bysiau yn y Gogledd?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 08/11/2023

Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, byddwn wedi darparu dros £200m o gyllid i'r diwydiant bysiau i'w helpu i ddelio ag effeithiau’r pandemig a'r costau cynyddol a'r lleihad mewn cymorth ers hynny. Mae hyn yn cynnwys y gronfa bontio ar gyfer bysiau gwerth £42m ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Mae ein tîm cynllunio rhwydwaith rhanbarthol Gogledd Cymru, sy'n cynnwys awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau, Trafnidiaeth Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru, wedi cynllunio rhwydwaith i wneud y mwyaf o'r cyllid sydd ar gael iddynt. Bydd hyn yn sail i'r rhwydwaith yn y dyfodol yng Ngogledd Cymru.

Mae sgyrsiau rhwng swyddogion ac awdurdodau lleol ar y gweill ar hyn o bryd i drafod lefel y cymorth gan Lywodraeth Cymru a fydd ar gael i bob rhanbarth yn 2024/25.