WQ89229 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2023

Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i gynyddu nifer yr ystafelloedd pwyllgora a’r ystafelloedd cyfarfod a all ddarparu ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau ar draws ystâd y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 11/10/2023

Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn yn cynnal adolygiad i'r defnydd o ystâd y Senedd. Fel rhan o hyn, gofynnwyd am farn Aelodau a rhanddeiliaid eraill am ddigwyddiadau a mannau cyfarfod ar yr ystâd a sut gellid sicrhau'r defnydd mwyaf priodol ac effeithlon o'r lleoliadau seneddol. Ystyriodd y Comisiwn bapur materion cychwynnol ar 25 Medi 2023. Bydd papur pellach gyda chynigion ar sut i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, a fframwaith ar sut i boblogi'r ystâd, yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn cyn diwedd eleni.