WQ89142 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/09/2023

Pam nad yw gofalwyr cymdeithasol yn cael eu cynnwys gyda gweithwyr GIG fel rhan o'r garfan sydd yn cael derbyn y brechiad ffliw a'r brechiad COVID-19 yn yr un lleoliad?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 04/10/2023

Mae gofalwyr cymdeithasol yn gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu COVID-19 a brechlyn y ffliw y gaeaf hwn ac fe'u hanogir yn gryf i fanteisio ar eu cynigion brechu i’w hamddiffyn eu hunain a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Y Byrddau iechyd yng Nghymru sy'n gyfrifol am weinyddu Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol. Cynghorir cydweinyddu'r brechlynnau COVID-19 a'r ffliw i'r rhai sy'n gymwys, lle mae'r cyflenwad yn caniatáu a lle bo'n briodol ac yn ymarferol weithredol i wneud hynny, gan osgoi unrhyw oedi cyn rhoi'r naill frechiad neu'r llall.

Gan y gall gofalwyr cymdeithasol fod ar wasgar yn y gymuned yn hytrach na bod mewn ysbyty, mae’r byrddau iechyd yn mabwysiadu modelau darparu hyblyg, sydd wedi'u teilwra i sicrhau bod cyfraddau brechu yn achos y ddau frechlyn hanfodol hyn.