Pryd bydd trigolion sydd yn gymwys i dderbyn y brechiad ffliw a'r brechiad COVID-19 yn cael eu cynnig ar yr un pryd, yn yr un lleoliad?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 04/10/2023
Y Byrddau iechyd yng Nghymru sy'n gyfrifol am ddefnyddio Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Clefydau Anadlol. Cynghorir cydweinyddu'r COVID-19 a brechlynnau’r ffliw i bawb sy'n gymwys, lle mae'r cyflenwad yn caniatáu a lle bo'n briodol ac yn ymarferol weithredol i wneud hynny, gan osgoi unrhyw oedi cyn rhoi'r naill frechiad neu'r llall.
Yr amcan yw manteisio i'r eithaf ar y ddau frechlyn ymhlith yr holl grwpiau cymwys; i ddiogelu unigolion, cymunedau a'n gwasanaethau iechyd a gofal y gaeaf hwn. Mae’r byrddau iechyd yn defnyddio modelau cyflenwi hyblyg i wneud hyn.