A all y Gweinidog gadarnhau o ba gyllideb y daw y £12.8m y mae'r llywodraeth wedi neulltuo ar gyfer atgyweirio ysbyty Llwynhelyg, yn dilyn darganfod RAAC yno?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 26/09/2023
Bydd y cyllid cyfalaf o £12.8m ar gyfer y gwaith cyweirio yn Ysbyty Llwynhelyg yn cael ei ariannu drwy Raglen Gyfalaf Cymru Gyfan y GIG.