WQ89112 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2023

A yw'r gwaith Metro De Cymru ar linell Treherbert yn parhau i redeg ar amser, ac a oes dyddiad arfaethedig o ran ail-agor y llinell?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 28/09/2023

Ydy, mae’r gwaith trawsnewid ar linell Treherbert yn rhedeg ar amser o hyd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod yn bwriadu ailagor y llinell ar gyfer gwasanaethau i deithwyr ym mis Chwefror 2024.