WQ89044 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2023

Ymhellach i'r ymateb i WQ88755 a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar y bwriad i fabwysiadu deddfwriaeth ar gyfer gwahanu gwastraff?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 20/09/2023

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau ailgylchu yn y gweithle y disgwylir iddynt, yn amodol ar ewyllys y Senedd, ddod i rym ar 6 Ebrill 2024.  Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle (gan gynnwys busnesau, y cyhoedd a'r trydydd sector) wahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol yn y ffordd y mae'r mwyafrif o ddeiliaid tai Cymru eisoes yn ei wneud.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon i wella cysondeb y ffordd yr ydym yn rheoli gwastraff, ac ansawdd a maint yr ailgylchu a gasglwn yng Nghymru. Bydd hyn yn lleihau gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi a llosgi ac yn lleihau allyriadau carbon.  Mae'r gyfraith newydd yn tynnu ar bwerau i Weinidogion Cymru a ddarperir yn Rhan 4 o Fil yr Amgylchedd (Cymru) y cytunwyd arnynt gan y Senedd yn 2016.

Mae'r diwygiadau'n gam pwysig tuag at gyrraedd dim gwastraff, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, tra hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer economi gryfach, wyrddach wrth i ni symud ymlaen tuag at ddatgarboneiddio, fel yr ymrwymwyd iddo yn ein Rhaglen Lywodraethu.

Mae'r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn adeiladu ar ein hailgylchu llwyddiannus yn y cartref, lle mae ein cyfradd uchel o ailgylchu yn arbed tua 400,000 tunnell o garbon i ni bob blwyddyn. Trwy'r diwygiadau hyn, rhagwelir y bydd y cynnydd mewn ailgylchu yn arwain at arbedion cyffredinol sylweddol i economi Cymru a mwy o waith a buddsoddiad yn y sector. Bydd hefyd yn golygu dull mwy cyson o ailgylchu ledled Cymru, gan gadw mwy o gyflenwad cadarn o ddeunyddiau eilgylch o ansawdd uchel yn yr economi.

Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU