Pa ddangosyddion mae'r Llywodraeth yn eu defnyddio i asesu i ba raddau mae ei pholisi cefnogi myfyrwyr mewn addysg uwch yn llwyddo i gyflawni amcanion y polisi ai peidio?
Cafodd nifer o newidiadau eu gwneud yn 2018 a 2019 i’r cymorth sydd ar gael i israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn sgil adolygiad Diamond, sef Adolygiad o Drefniadau Gyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr. Mae gwerthusiad llawn o’r diwygiadau hyn yn cael ei ddatblygu, a bydd yn cynnwys adolygiad o’r cohortau sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau o dan y trefniadau newydd. Bydd yn triongli data ansoddol a meintiol er mwyn rhoi’r darlun mwyaf cyflawn o effeithiau polisi cymorth myfyrwyr a llywio cyfeiriad polisi yn y dyfodol. Bydd yn cynnwys data o’r Arolwg Incwm a Gwariant Myfyrwyr sy’n cael ei gynnal o dro i dro ar y cyd ag Adran Addysg Llywodraeth y DU.
Hefyd mae nifer o ffynonellau arolwg a data ar gael sy’n darparu dealltwriaeth werthfawr, gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru, Student Finance Omnibus Survey, datganiad data blynyddol HESA, data UCAS ar geisiadau a’r bobl a dderbyniwyd, yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, yr Arolwg Incwm a Gwariant Myfyrwyr, a’r Arolwg o Brofiadau Academaidd Myfyrwyr.