WQ89041 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2023

Sut mae Cymru'n perfformio mewn termau cymharol o ran nifer y myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig sy'n (i) gwneud ceisiadau a (ii) sy'n llwyddiannus wrth geisio am lefydd prifysgol?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 22/09/2023

Mae data ar geisiadau a derbyniadau prifysgolion ar gael drwy Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS), gan gynnwys data yn ôl Mynegeion Amddifadedd Lluosog. Mae Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn cynhyrchu eu Mynegeion Amddifadedd Lluosog eu hunain, ac er bod y setiau data hyn yn seiliedig ar yr un cysyniad a methodoleg gyffredinol, nid oes modd cymharu'r mynegeion yn uniongyrchol.