Pa ddadansoddiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o arwyddocad data diweddaraf HESA ar incwm a gwariant prifysgolion a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni o ran sefyllfa sefydliadau addysg uwch Cymru?
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy’n gyfrifol am oruchwylio sefydlogrwydd ariannol sector addysg uwch Cymru, ac mae adrodd a thrafodaethau â Llywodraeth Cymru yn digwydd drwy drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd sydd wedi eu sefydlu.
Mae data HESA yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth sy’n darparu ffordd o feincnodi sector cyfan y DU. Mae CCAUC wedi cyhoeddi dadansoddiad o’r data hyn sydd i’w weld yn: Sefyllfa Ariannol Sefydliadau Addysg Uwch Cymru 2021/22 - HEFCW
Mae’n bwysig cofio bod y data hyn yn cynrychioli pwynt mewn amser (31 Gorffennaf 2022) ac nad yw’n sail ar gyfer y broses gyfan o oruchwylio a monitro’r sector yn ariannol.