WQ88927 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/10/2023

Ymhellach i WQ88782, a wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad o faint o bobl y gwnaethon nhw ymgysylltu â nhw ym mhob digwyddiad yn eu trefn a sut caiff y term 'ymgysylltu â' ei fesur yn y cyd-destun hwn?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 25/10/2023

Mae’r Senedd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gynnwys dinasyddion Cymru yn y broses ddemocrataidd. Mae’r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu’n defnyddio tystiolaeth, ymchwil, arfer gorau a rennir ac arbenigedd i bennu pa ddull sydd fwyaf effeithlon ac effeithiol ar gyfer y gynulleidfa. Gall y dull amrywio yn ôl y neges, y gynulleidfa, a'r cyd-destun gwleidyddol, yn ogystal â'r defnydd priodol o adnoddau dynol ac ariannol.

Mae'n bwysig bod dinasyddion yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddemocrataidd, ac yn dewis y dulliau sy'n cyd-fynd â'u nodau a'u gwerthoedd. Cymeradwyodd Comisiwn y Senedd y Strategaeth Gyfathrebu ac Ymgysylltu ddiweddaraf, sy’n rhoi pwyslais ar geisio cyrraedd cynulleidfaoedd sy’n ymgysylltu llai, yn ôl daearyddiaeth a demograffeg.

Dros fisoedd yr haf, mae dulliau ymgysylltu’r Senedd yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau sydd â’r nod o gynnwys dinasyddion yn y broses ddemocrataidd; mae’r rhain yn cynnwys cyfuniad o ddulliau digidol a dulliau wyneb yn wyneb. Ystyr argraffiadau/cyrhaeddiad yn y Cyfryngau Cymdeithasol yw sawl gwaith y mae'r cynnwys yn cael ei weld ar ein platfformau. Mae rhyngweithio wyneb yn wyneb yn cynnwys pobl sy’n ymweld â stondin y Senedd, cymryd rhan mewn gweithgaredd neu sgwrs ag aelod o staff neu Aelod o’r Senedd, neu ymweld â’n hystad.

 

 

Digwyddiad

Wyneb yn wyneb

Cymdeithasol

Yr Urdd

Ymgysylltodd 2,664 o ymwelwyr ag aelod o staff yn stondin y Senedd Ieuenctid

Cyrhaeddiad/argraffiadau = 13,308

Pride

x

6,114 o argraffiadau

Gemau Trefol

Daeth 39 i ddigwyddiad yn y Senedd

Cyrhaeddiad o 1,268

Sioe Frenhinol Cymru

Ymgysylltodd 370 o ymwelwyr ag aelod o staff yn stondin y Senedd Ieuenctid

9,567 o argraffiadau

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Ymgysylltodd 3,086 o ymwelwyr ag aelod o staff yn stondin y Senedd, gan gynnwys y rheini a ddaeth i’r digwyddiad gyda’r Llywydd a’r Prif Weinidog (115)*

Cyrhaeddiad/argraffiadau = 52,446 (cefnogwyd gan hysbysebion taledig ar gost o tua 0.22c y clic)

Carnifal Tre-biwt

Ymwelodd 9,541 â’r ystâd dros yr haf.

Ymwelodd 1,893 o’r rhain â’r ystâd dros benwythnos y carnifal (247 ohonynt â digwyddiadau’r Senedd)

Cyrhaeddiad o 26,851

Cyfanswm

15,600

109,584

Mae gwaith ymgysylltu'r haf yn rhan o raglen flynyddol ehangach o waith allgymorth ac ymgysylltu, gyda phob dull a ddefnyddir yn cael ei deilwra a'i dargedu. Drwy integreiddio dulliau digidol a dulliau wyneb yn wyneb ar gyfer ymgysylltu democrataidd, gall y Senedd gyrraedd cynulleidfa ehangach a mwy amrywiol, meithrin cyfranogiad dinasyddion ar sail gwybodaeth, a chryfhau’r broses ddemocrataidd. Mae’r dulliau hyn yn cydnabod pwysigrwydd cyfarfod â phobl lle maen nhw, boed hynny ar-lein neu yn eu cymunedau.

Dyna pam mae ein Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar gasglu data i gryfhau mewnwelediad cynulleidfa a gwella dealltwriaeth o effaith ein gwaith. 

Rydym yn cynnal ymchwil cynulleidfa i gasglu mewnwelediadau i wybodaeth, a chanfyddiad y cyhoedd o ran y Senedd. Canfu’r arolwg diweddaraf fod 97% yn ymwybodol o’r Senedd, gyda 64% yn cydnabod sut mae deddfau Cymreig yn effeithio ar faterion sy’n agos atynt.

At hynny, rydym wedi cyflwyno ffyrdd newydd o gasglu adborth gan gynulleidfaoedd – fel arolygon cwsmeriaid ar gyfer ymwelwyr, a’r rheini sy’n bresennol yn ein digwyddiadau. Er enghraifft, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd 70% o’r ymwelwyr a gwblhaodd arolygon nad oeddent wedi ymgysylltu â’r Senedd o’r blaen. Dywedodd 73% o’r ymwelwyr a lenwodd yr arolwg fod eu dealltwriaeth o’r Senedd wedi cynyddu ar ôl eu hymweliad, a dywedodd 54% eu bod yn fwy tebygol o gymryd rhan yng ngwaith y Senedd yn dilyn eu hymweliad.