Ymhellach i'w ymateb i WQ88782, a wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad o faint y bydd pob digwyddiad/sioe a restrir yn ei gostio?
Cyrhaeddodd rhaglen sioeau haf eleni gynulleidfa o 117,521 i gyd ar draws sawl sianel.
Mae cyfanswm y costau yn cynnwys stondinau masnachu, dylunio’r stondinau, tocynnau, unrhyw nawdd, hysbysebu digidol, wifi, teithio / cynhaliaeth ac unrhyw oramser a hawliwyd ar gyfer staff. Mae'r costau'n cynnwys TAW lle bo hynny'n berthnasol.
· Eisteddfod yr Urdd - £32,257.35
· Pride Cymru - £1,319.38
· Gemau Trefol - £277.20
· Sioe Frenhinol Cymru - £1,057.32
· Eisteddfod Genedlaethol - £41,535.96
· Carnifal Butetown - £783.90*
Roedd y gost fesul ymgysylltiad oddeutu 0.66c a byddwn yn defnyddio'r gwerthusiad a'r mewnwelediad i adolygu ein rhaglen sioeau haf yn barhaus.
*Nid yw hyn yn cynnwys costau terfynol fel goramser staff gan fod y rhain yn dal i gael eu cwblhau.