WQ88912 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/08/2023

Ymhellach i'r ffigurau a ddarparwyd mewn ymateb i WQ88730, pa ffactorau sy'n esbonio'r cynnydd yng nghyfanswm y gwariant ar gyllid myfyrwyr bob blwyddyn?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 08/09/2023

Rydym wedi gweld cynnydd cyffredinol yn nifer y myfyrwyr o Gymru oherwydd mwy o gyfranogiad mewn addysg uwch. Fodd bynnag, y prif reswm dros y cynnydd mewn gwariant yw'r codiadau blynyddol i gymorth myfyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu faint o gymorth cynhaliaeth y mae'n ei ddarparu i fyfyrwyr addysg uwch bob blwyddyn, gan godi cyfraddau yn unol â pholisi sefydledig. Mae cymorth cynhaliaeth yn gysylltiedig â gwerth y Cyflog Byw Cenedlaethol, gan gydnabod pwysigrwydd cymorth costau byw i fyfyrwyr.