A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi'r ohebiaeth rhwng y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg mewn cysylltiad ag achos yn y llys sifil yng Nghaernarfon a glywyd ym mis Mehefin eleni ynghylch diffyg tocyn parcio Cymraeg?
Ysgrifennodd Comisiynydd y Gymraeg ataf ar 26 Hydref 2022 yn gofyn am wybodaeth yn ymwneud ag achos llys yn Llys Sirol Caernarfon rhwng unigolyn a chwmni parcio preifat. Gofynnodd y Comisiynydd hefyd i mi ystyried argymhelliad y dylai Gweinidogion Cymru ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 i ragnodi'r geiriad a ddefnyddir ar arwyddion a hysbysiadau mewn meysydd parcio ar dir preifat; ffurf a chynnwys y dystiolaeth a ddefnyddir ar y cyd â hysbysiadau am daliadau parcio a anfonir gan berchnogion meysydd parcio ar dir preifat; a geiriad hysbysiadau am daliadau parcio, er mwyn sicrhau eu bod yn ddwyieithog.
Ar 28 Tachwedd 2022 anfonais yr ymateb canlynol i'r Comisiynydd:
Diolch am eich llythyr dyddiedig 26 Hydref 2022 ynglŷn â’r defnydd o’r Gymraeg gan feysydd parcio preifat, a’r achos sydd gerbron Llys Sirol Caernarfon.
I ateb eich cwestiwn yn ail dudalen eich llythyr, gallaf gadarnhau nad yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau o dan Atodlen 4 Deddf Diogelu Rhyddid 2012. Rwy’n nodi bod y gwrandawiad llys bellach wedi cael ei oedi tan 4 Ionawr 2023, felly gobeithio bod derbyn cadarnhad o hynny yn ddefnyddiol i chi.
Rwyf hefyd yn nodi eich bod wedi dod i’r casgliad fod gan Weinidogion Cymru y pŵer o dan Atodlen 4 Deddf Diogelu Rhyddid 2012 i greu is-ddeddfwriaeth fyddai'n pennu ffurf a chynnwys arwyddion mewn meysydd parcio preifat, ffurf neu gynnwys y dystiolaeth i gyd-fynd â hysbysiadau, yn ogystal â chynnwys yr hysbysiadau eu hunain. Rydych yn argymell bod Gweinidogion yn defnyddio’r pwerau hynny (ynghyd â’r pŵer yn adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 pe bai angen) er mwyn gorchymyn bod rhaid iddynt fod yn ddwyieithog.
Byddwn yn ystyried eich argymhelliad ac yn trafod y casgliad gyda chi maes o law.
Ar ôl ystyried argymhelliad y Comisiynydd, anfonais ohebiaeth bellach ar 5 Mai 2023:
Fe wnaeth y Dirprwy Gomisiynydd anfon llythyr ataf i ar 26 Hydref 2022 ynglŷn â’r defnydd o’r Gymraeg gan gwmnïau sy’n rhedeg meysydd parcio preifat. Roedd y llythyr yn gofyn i mi ystyried argymhelliad fod Gweinidogion Cymru yn defnyddio pwerau o dan Atodlen 4 Deddf Diogelu Rhyddid 2012 er mwyn gorchymyn bod rhaid i arwyddion mewn meysydd parcio preifat, yn ogystal â hysbysiadau a thystiolaeth i gyd-fynd â hysbysiadau, fod yn ddwyieithog. Rwyf bellach wedi ystyried yr argymhelliad hwnnw.
Rwyf wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen i ddefnyddio pwerau o dan Atodlen 4 Deddf Diogelu Rhyddid 2012 i wneud dyletswyddau mewn perthynas â meysydd parcio preifat. Mae hynny oherwydd rhesymau polisi, ond hefyd oherwydd yr effaith byddai gwneud hynny yn cael ar weddill rhaglen deddfwriaethol y Llywodraeth.
Er mwyn deddfu’n effeithiol yn y maes hwn rwyf wedi dod i’r casgliad y byddai angen i Weinidogion bennu’r union eiriad i’w defnyddio yn y Gymraeg a’r Saesneg ar arwyddion, hysbysiadau, a dogfennau cysylltiedig. Am fod gan y dogfennau o dan sylw oblygiadau cyfreithiol ar y cyhoedd i dalu dirwyon, byddai deddfu i roi dyletswydd gyffredinol ar gwmnïau sy’n rhedeg meysydd parcio preifat i arddangos arwyddion dwyieithog a dyroddi dogfennau dwyieithog yn cario risg o sialensiau cyfreithiol ynghylch pa ffurf o eiriau (y Gymraeg neu’r Saesneg) sy’n gywir.
Nid yw Gweinidogion Cymru wedi defnyddio’r pwerau o dan Atodlen 4 Deddf Diogelu Rhyddid 2012 i gyflwyno is-deddfwriaeth o’r blaen, ac rwyf wedi dod i’r casgliad y byddai gwneud hynny yn cymryd adnoddau polisi a chyfreithiol sylweddol. Rwyf wedi nodi’n flaenorol mai fy mlaenoriaethau o ran deddfu ym maes y Gymraeg yn ystod tymor y Senedd hon yw Bil Addysg Gymraeg newydd, ac ymestyn y drefn safonau’r Gymraeg i gynnwys cyrff newydd. Mae’r blaenoriaethau hynny wedi’u cadarnhau yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Byddai cyflwyno is-deddfwriaeth ym maes meysydd parcio preifat yn ymyrryd ar gynlluniau’r Llywodraeth i gyflawni’r Bil Addysg Gymraeg, a chyflwyno mwy o reoliadau safonau. Ar ôl ystyried pa ymyraethau polisi dylai cael eu blaenoriaethu ar sail beth fyddai’n cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, rwyf wedi cael fy argyhoeddi y dylid parhau i flaenoriaethu’r Bil Addysg Gymraeg a rheoliadau safonau. Golyga hynny na fydd adnoddau ar gael yn ystod tymor y Senedd hon i baratoi is-deddfwriaeth o dan Atodlen 4 Deddf Diogelu Rhyddid 2012.
Er nad wyf yn bwriadu cyflyno deddfwriaeth yn unol â’ch argymhelliad, rwy’n cydnabod y byddai’n dda gwella’r defnydd o’r Gymraeg gan gwmnïau meysydd parcio preifat. Rwy’n ymwybodol bod Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth Prydain yn bwriadu ymgynghori yn fuan ar fersiwn ddrafft o Cod Ymarfer Parcio. Bydd y Cod hwn yn cael ei gyhoeddi o dan Ddeddf Parcio (Cod Ymarfer) 2019. Fy mwriad felly yw ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw pan gaiff ei gyhoeddi, yn gofyn i Lywodraeth Prydain gynnwys canllawiau ynghylch defnyddio’r Gymraeg yn y Cod terfynol.
Mae’n bosib yr hoffech chi hefyd ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw pan gaiff ei gyhoeddi, felly bydd swyddogion yn eich diweddaru am y sefyllfa. Pe bai Llywodraeth Prydain yn penderfynu cynnwys canllawiau yn y Cod ynghylch defnyddio’r Gymraeg fe allai hynny agor y drws i gydweithio gyda chwmnïau sy’n weithredol yn y maes i gynyddu’u defnydd o’r Gymraeg.
Diolch am ddod a’r mater hwn i fy sylw.