WQ88824 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/08/2023

Faint o arian mae'r Comisiwn wedi'i wario ar swyddogion heddlu arfog yn ystod 2022-23, a faint mae'n rhagweld y bydd yn ei wario ar swyddogion heddlu arfog yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 29/08/2023

Diolch am eich cais am wybodaeth ariannol.

Nid yw’r union wybodaeth y gofynnir amdani yn cael ei chyhoeddi na’i datgelu oherwydd pryderon dilys ynghylch diogelwch gwladol, gan gynnwys yr angen i atal niwed – neu’r risg o niwed – rhag digwydd i Aelodau o’r Senedd, eu Staff Cymorth, staff Comisiwn y Senedd, cohort yr Heddlu ac ymwelwyr ag ystad y Senedd, yn ogystal â seilwaith ac adeiladau’r Senedd ei hun.

Mae’r wybodaeth a gwmpesir gan y cais yn ymwneud yn uniongyrchol â threfniadau ar gyfer diogelwch ystâd y Senedd. Y risg wrth ddatgelu’r wybodaeth hon yw ei bod yn wirioneddol debygol y bydd yn niweidio effeithiolrwydd a chywirdeb y trefniadau hynny.

At hynny, pe bai’r cyhoedd yn gwneud cais, byddai’r wybodaeth dan sylw wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan adrannau 24(1) a 38(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Nid yw gwariant eitemedig gwirioneddol yn cael ei gyhoeddi ond mae wedi'i gynnwys yn y ffigwr costau nad yw'n ymwneud â staff yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon. Yn 2022/23, roedd cost y gyllideb diogelwch a gyhoeddwyd yn £773,500, gyda'r un gost yn y gyllideb ar gyfer 2023/24.

Gellir trefnu briff cyfrinachol ar wariant gyda'r Aelod os oes angen rhagor o wybodaeth arno.