A wnaiff y Comisiwn ddarparu rhestr o’r sioeau a’r digwyddiadau y mae ganddo, neu y bydd ganddo, stondin ynddynt i hyrwyddo gwaith Senedd Cymru rhwng 1 Mai 2023 a 1 Medi 2023?
Ar gyfer ein rhaglen sioeau haf eleni, rydym wedi ceisio mynd i ystod ehangach o ddigwyddiadau i'n galluogi i ymgysylltu â chynulleidfaoedd mwy amrywiol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r Senedd wedi bod yn bresennol yn y digwyddiadau a'r sioeau a ganlyn:
- Eisteddfod yr Urdd
- Pride Cymru
- Gemau Stryd yr Urdd
- Sioe Frenhinol Cymru
- Yr Eisteddfod Genedlaethol
- Carnifal Trebiwt
Mae ein presenoldeb yn y digwyddiadau a'r sioeau hyn yn fodd i ni gyflwyno ystod o weithgareddau ymgysylltu gan gynnwys digwyddiadau, arddangosfeydd, gweithdai, a chael sgyrsiau i godi ymwybyddiaeth o waith y Senedd, gwaith pwyllgorau'r Senedd, a Senedd Ieuenctid Cymru, a gwella dealltwriaeth o’r gwaith hwn. Pan fo’n bosibl, rydym hefyd yn ceisio annog pobl i gymryd rhan mewn ymgyngoriadau. Rydym wedi ymgysylltu â 3,078 o bobl yn Eisteddfod yr Urdd, Gemau Stryd yr Urdd, a'r Sioe Frenhinol.