WQ88743 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/09/2023

Pa gefnogaeth ac anogaeth y mae Lywodraeth Cymru yn eu darparu i sicrhau bod gan pob ysgol yng Nghymru arweinydd i ofalwyr ifanc sy'n cydlynu'r gefnogaeth ar gyfer gofalwyr ifanc ac yn eirioli ar eu rhan, fel yr hyn a ddarperir yn Ysgol Uwchradd Radyr?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 18/09/2023

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein  Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig ar gyfer gofalwyr di-dâl yn 2021. Cafodd y rhain eu cynhyrchu ar y cyd â sefydliadau gofalwyr cenedlaethol, cyrff statudol, ac mae hefyd yn cynnwys profiadau gofalwyr di-dâl. Mae Blaenoriaeth 4 ein Cynllun Cyflawni yn tynnu sylw at rôl gofalwyr ifanc a gofalwyr ifanc sy'n oedolion.

Cyhoeddwyd adnoddau a gafodd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn 2020 i helpu ymarferwyr addysg a llywodraethwyr i wella eu dealltwriaeth o'r heriau a allai wynebu gofalwyr ifanc mewn addysg.

Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer gofalwyr ifanc ar y cyd â'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru.  Roedd hwnnw ar gael ledled Cymru o fis Ebrill 2021 ymlaen. Cafodd ei gynllunio i helpu gofalwr ifanc yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol i gael cymorth a chefnogaeth.