WQ88634 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2023

Faint a wariwyd gan Llywodraeth Cymru ar ddarparu cinio ysgol am ddim yn ystod gwyliau haf 2022?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 19/07/2023

Gwariodd Llywodraeth Cymru £13.7m ar ddarparu prydau ysgol am ddim i ddysgwyr cymwys yn ystod gwyliau haf 2022. Roedd y swm hwnnw’n cynnwys ffi weinyddol i awdurdodau lleol am ddarparu'r gwasanaeth ar ran Llywodraeth Cymru.