WQ88633 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2023

Pa gamau mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn ystod y gwyliau haf sydd i ddod?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 19/07/2023

Yr haf hwn, bydd ystod eang o gynlluniau gwyliau ar gael ym mhob un o ardaloedd yr awdurdodau lleol i gefnogi plant a phobl ifanc. Mae’r cynlluniau hynny’n cynnwys y cynllun Bwyd a Hwyl a'n prosiect gwyliau Gwaith Chwarae. Rydyn ni wedi ehangu ein cynllun Bwyd a Hwyl yn sylweddol yr haf hwn. Mae cyfanswm o 184 o gynlluniau wedi'u cynllunio ledled Cymru ar gyfer yr haf hwn (i fyny o 139 yn 2022-23) sy'n cynnig ychydig dros 11,000 o leoedd i ddysgwyr ar gyfer pob dydd y mae’r cynlluniau'n rhedeg (i fyny o bron 8,000 yn 2022-23). Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer yr haf hwn bellach wedi dod i ben, ac mae cynnydd sylweddol yn y nifer sy'n manteisio ar y cynlluniau o'i gymharu â'r llynedd.