WQ88577 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/07/2023

Pa bryd fydd gwasanaeth cyswllt toresgyrn ar gael ar gyfer etholwyr yn Arfon fel rhan o ofal osteoporosis?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 17/07/2023

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn ar draws Cymru ac yn disgwyl i bob bwrdd iechyd fod â gwasanaeth llawn erbyn mis Medi 2024.

I gefnogi’r ymrwymiad hwn, mae grŵp sicrwydd a datblygu Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn Cymru Gyfan wedi’i sefydlu i gefnogi byrddau iechyd. Mae’r grŵp wedi bod yn cyfarfod ers mis Hydref 2022 ac wedi bod yn gweithio i hyrwyddo’r archwiliad Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn cenedlaethol ac annog byrddau iechyd i gymryd rhan ynddo i ddarparu llinell sylfaen manwl gywir ar gyfer y grŵp sicrwydd a’r darparwyr archwilio. Mae’r grŵp yn adolygu dangosyddion perfformiad, yn trafod cynnydd ac yn cynnig cymorth i fyrddau iechyd i oresgyn y rhwystrau a nodwyd.

Yn ogystal, mae ein Harweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Cwympiadau ac Eiddilwch, Dr Inder Singh wedi bod yn cysylltu â phob bwrdd iechyd i asesu eu hachosion busnes a rhoi cymorth yn unol â hynny. Mae Dr Singh mewn cysylltiad rheolaidd â chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn eu cefnogi i ddatblygu eu Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn ymhellach.

Mae Dr Singh hefyd wedi meithrin cysylltiadau â chyfarwyddwyr meddygol ar draws Cymru i sicrhau cefnogaeth ar lefel weithredol yn y byrddau iechyd a chydag arweinwyr nyrsio i sicrhau bod arbenigwyr nyrsio clinigol yn cael eu datblygu’n effeithiol fel clinigwyr allweddol sy’n darparu’r gwasanaethau hyn.