WQ88566 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/07/2023

A wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar natur a chanlyniad pob un o’r 36 cwyn am gydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg sy’n cael eu crybwyll yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg 2022-2023?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 11/07/2023

Wele’r tabl isod:

Cyfeirnod

Natur y Gwyn

Categori’r Safon

Canlyniad

1

Diffyg gwasanaeth yn Gymraeg ar rif llinell canolfan alw yn cael ei ddarparu gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad gan fod camau cadarnhaol wedi’u cymryd i osgoi’r mater i’r dyfodol

2

Diffyg gwasanaeth yn Gymraeg ar rif llinell canolfan alw yn cael ei ddarparu gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Mae’r ymchwiliad yn parhau

 

3

Diffyg gwasanaeth yn Gymraeg ar rif llinell canolfan alw yn cael ei ddarparu gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni cynhaliwyd ymchwiliad gan fod camau cadarnhaol wedi’u cymryd i osgoi’r mater i’r dyfodol

4

Diffyg ystyriaeth ddigonol o’r Gymraeg wrth gyhoeddi polisi newydd

Llunio polisi

Ni chynhaliwyd ymchwiliad gan fod y Comisiynydd o’r farn fod y polisi yn ehangu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a doedd dim amheuaeth o drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

5

Diffyg proses ymgeisio’n Gymraeg ar wefan Cyngor Sir

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad – doedd hwn ddim yn fater i Lywodraeth Cymru (cadarnhad fod yr ohebiaeth wedi’i anfon ar gam atom)

6

Testun anghyflawn ar dudalennau Cymraeg gwefan a gynhelir gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad -  camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater

7

Diffyg gwybodaeth yn Gymraeg gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Mae’r ymchwiliad yn parhau

8

Diffyg ffurflen ymgeisio am gynllun nawdd yn Gymraeg gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad – doedd y trydydd parti ddim yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru

9

Safon testun Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol

Cyflenwi Gwasanaeth

Darparwyd ymateb yn uniongyrchol i’r achwynydd

10

Diffyg cofnod o ddewis iaith ar wasanaeth ffon gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau.

11

Gohebiaeth Saesneg yn unig wedi’i anfon mewn ymateb i ymholiad Pwyllgor y Senedd

Cyflenwi Gwasanaeth

Darparwyd ymateb yn uniongyrchol i’r achwynydd

12

Anghytundeb gyda enw Cymraeg a ddefnyddiwyd ar arhosfan bws newydd

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau

13

Diffyg “toggle” uniongyrchol rhwng tudalennau Cymraeg a Saesneg ar wefan

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau

 

14

Arwydd ffordd Saesneg wedi’i godi gan Gyngor Sir ar ffordd B, nid traffordd na chefnffordd (sydd dan ofal Llywodraeth Cymru)

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau

15

Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg ar drên

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad – ymchwiliad i fater tebyg eisoes ar waith gan y Comisiynydd

16

Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg mewn gorsaf drên

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau

17

Diffyg gwasanaeth Cymraeg ar llinell ffon canolfan alwadau a ddarperir gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau

 

18

Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg ar drên

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad am fod y Comisiynydd eisoes yn ymchwilio i fater tebyg

19

Diffyg gwasanaeth Cymraeg ar llinell ffon canolfan alwadau a ddarperir gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau

 

20

Gohebu’n Saesneg gyda rhywun oedd wedi datgan mai Cymraeg oedd ei dewis/ddewis iaith

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau

21

Anghytundeb dros enw Cymraeg ar arwydd a godwyd cyn 2016

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad oherwydd codwyd yr arwydd cyn i’r safonau ddod i rym

 

22

Diffyg gwasanaethau Cymraeg (cyhoeddiadau, gwybodaeth ar docyn, arwyddion electroneg) ar drên

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau

23

Diffyg gwasanaethau Cymraeg ar drên (cyhoeddiadau ac arwyddion electroneg)

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad am fod y Comisiynydd eisoes yn ymchwilio i fater tebyg

24

Ebost ddwyieithog wedi’i anfon gyda’r testun Saesneg yn gyntaf

Cyflenwi Gwasanaeth

Dyfarniad o ddiffyg cydymffurfiaeth.  Dim camau gweithredu gan fod proses eisoes wedi’i addasu i sicrhau cydymffurfiaeth i’r dyfodol

25

Arwydd ffordd yn dangos enw lle yn Saesneg yn unig

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad am fod yr arwydd wedi’i chodi cyn 2016

26

Dogfennau polisi wedi’u cyhoeddi heb ystyriaeth ddigonol o’r Gymraeg

Llunio polisi

Ymchwiliad yn parhau 

 

27

Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg ar drên

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad – am fod y Comisiynydd eisoes yn ymchwilio i fater tebyg

28

Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg ar drên

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad – am fod y Comisiynydd eisoes yn ymchwilio i fater tebyg

29

Diffyg gwasanaeth Cymraeg ar llinell canolfan alwadau a ddarperir gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau

30

Dolen ar dudalen Gymraeg gwefan wedi torri

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymateb wedi’i ddarparu yn uniongyrchol i’r achwynydd

31

Ymateb Saesneg wedi’i dderbyn i ebost Cymraeg gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad – oherwydd fod camau wedi’u cyflwyno i sicrhau na fyddai’r mater yn digwydd eto

32

Diffyg hyfforddiant Cymraeg gan ddarparwr trydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad – nid oedd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar ran Llywodraeth Cymru

33

Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg ar drên

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad – gan fod y Comisiynydd eisoes wedi dyfarnu ar y mater hwn

34

Diffyg darpariaeth Cymraeg wrth hyfforddi

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymateb wedi’i ddarparu yn uniongyrchol i’r achwynydd

35

Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg ar drên

Cyflenwi Gwasanaeth

Ni chynhaliwyd ymchwiliad – oherwydd fod y Comisiynydd eisoes wedi dyfarnu ar y mater hwn

36

Defnydd o enw Saesneg mewn ymgyrch a gynhaliwyd gan drydydd parti

Cyflenwi Gwasanaeth

Ymchwiliad yn parhau