Pa ardaloedd sydd o fewn cwmpas y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg?
Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 07/07/2023
Nod y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yw cefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi. Mae’r ardaloedd blaenoriaeth yn cynnwys awdurdodau lleol Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro, Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn.