I ba raddau mae’r cynllun i ddarparu gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16-25 oed yn llwyddo i ddiwallu’r galw ac i sicrhau bod pawb sy’n dymuno dilyn cwrs am ddim yn medru gwneud hynny?
Mae 1,602 o bobl ifanc 16-25 oed wedi dilyn gwersi Cymraeg am ddim drwy ddarpariaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers Medi 2022. Mae’r ddarpariaeth yn diwallu’r galw yn llawn, a gall unrhyw berson ifanc sy’n dymuno dilyn cwrs Cymraeg am ddim wneud hynny. Mae’r ddarpariaeth yn amrywio o sesiynau blasu hunanastudio i gyrsiau codi hyder, a phob un â’r nod o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Gall pobl ifanc ddewis cwrs sy’n gweddu i’w harddull dysgu neu eu hamgylchiadau nhw. Gallant ddewis o gyrsiau hunanastudio ar-lein, cyrsiau ar-lein dan arweiniad tiwtor, darpariaeth hybrid, gwersi wyneb yn wyneb yn y gymuned, neu gyrsiau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau a fynychir gan bobl ifanc, megis colegau, prifysgolion a lleoliadau prentisiaethau. Mae’r Ganolfan Genedlaethol hefyd wedi sefydlu partneriaethau gyda Dug Caeredin, Esgol a Say Something in Welsh er mwyn datblygu prosiectau i ddarparu cyrsiau i bobl ifanc.
Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan gydweithio â Cefin Campbell, aelod dynodedig Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.