A yw’r Gweinidog yn gallu rhoi sicrwydd bod gwefan a ffurflenni ar-lein Cynllun ad-dalu oedi Trafnidiaeth Cymru yn peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg ac yn cydymffurfio â gofynion safonau’r Gymraeg?
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi fy hysbysu nad yw'n bosib cyfrifo faint o deithwyr sy'n gymwys i dderbyn iawndal Ad-dalu Oedi sydd wedyn ddim yn mynd ati i hawlio’r iawndal hwn. Dim ond canran fach o docynnau sy'n cael eu gwerthu ar gyfer trenau pwrpasol gyda'r mwyafrif yn cael eu gwerthu ar sail 'agored'. Felly, ni chedwir data ar ba drên penodol y mae teithwyr wedi teithio arno, p'un a ydynt wedyn yn gymwys i gael iawndal, a gwerth yr iawndal hwnnw.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi nodi'r materion canlynol fel y prif achosion dros oedi yn 2022 a 2023:
· Materion dibynadwyedd gyda fflyd etifeddol
· Effeithiau tywydd garw ar seilwaith
· Dibynadwyedd seilwaith
· Nifer y staff trên sydd ar gael
· Gweithredu diwydiannol sy'n effeithio ar Network Rail a Chwmnïau Gweithredu Trenau yn Lloegr
· Gwaith peirianneg yn gor-redeg
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio i wella ei wasanaethau cyfrwng Cymraeg i gwsmeriaid dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ei wefan a'i ap yn ddwyieithog ac mae gan bob fflyd newydd systemau sy'n darparu gwybodaeth i gwsmeriaid yn ddwyieithog. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Mae'r porth dwyieithog Ad-dalu Oedi yn cael ei gynnal gan ddatblygwr trydydd parti ac ar hyn o bryd mae'n destun archwiliad llawn gan gydweithwyr Trafnidiaeth Cymru i sicrhau ei fod yn darparu profiad rhagorol i ddefnyddwyr yn y ddwy iaith a'i fod yn cydymffurfio'n llawn â gofynion Safonau'r Gymraeg.