Sut mae Llywodraeth Cymru am weithredu ar yr argymhellion a amlinellir yn adroddiad 'Y Gymraeg yn y Gyfundrefn Anghenion Dysgu Ychwanegol' a gyhoeddwyd gan Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Plant Cymru?
Rwy'n croesawu papur polisi’r Comisiynwyr ac rwy'n ymateb iddynt i amlinellu'r camau yr ydym yn eu cymryd i ymateb i'w hargymhellion.
Mae'r heriau a amlygwyd yn adleisio llawer o'r pwyntiau y mae’r sector a dysgwyr a'u teuluoedd wedi’u codi â mi. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn flaenoriaeth, ac rwyf wedi sicrhau bod cynllunio i gynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn rhan allweddol o’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda'i phartneriaid i wella'r ddarpariaeth dysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg, fel y gall pob dysgwr gael yr un cyfle i ddysgu a datblygu er mwyn cyrraedd eu potensial llawn.