WQ88413 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/06/2023

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei baratoadau ar gyfer diwygio'r Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 28/06/2023

Mae Comisiwn y Senedd yn paratoi mewn pedair ffordd:

1. Yn gyntaf, mae’n paratoi i gefnogi gwaith craffu ar ddeddfwriaeth Diwygio’r Senedd – mae’n hanfodol bod y Senedd yn cael y cymorth sydd ei angen arni i wneud gwaith craffu trylwyr ar ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwygio’r Senedd a bydd y Comisiwn yn sicrhau y caiff cymorth seneddol rhagorol ei ddarparu.

2. Yn ail, mae Comisiwn y Senedd, fel rhanddeiliad blaenllaw, yn paratoi i gynorthwyo’r Senedd a’i phwyllgorau wrth iddynt ystyried deddfwriaeth Diwygio’r Senedd – er enghraifft, os bydd un o’r pwyllgorau’n gwahodd Comisiwn y Senedd i gyfrannu at ei waith fel rhanddeiliad allweddol. Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn yn ymateb i geisiadau Llywodraeth Cymru am wybodaeth am amcangyfrif o’r costau i Gomisiwn y Senedd a allai ddeillio o ddeddfwriaeth Diwygio’r Senedd. Ac mae’r Comisiwn yn barod i gynorthwyo’r Senedd a’i bwyllgorau pan fyddant yn dod i ystyried yr amcangyfrifon cost maes o law.

3. Yn drydydd, rhaid i’r Comisiwn baratoi ar gyfer y newid posibl – heb achub y blaen ar benderfyniadau’r Senedd ynghylch Diwygio’r Senedd, mae’r newid arfaethedig mor fawr fel y bu’n rhaid i Gomisiwn y Senedd fynd ati i baratoi ar gyfer y posibilrwydd mewn ffordd ddarbodus. Fodd bynnag, ni fydd yn ysgwyddo gwariant sylweddol nes bod y Senedd yn penderfynu bwrw ymlaen â’r diwygiadau arfaethedig, a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Mae ystod o brosiectau wedi’u sefydlu, gan gynnwys prosiectau’n ymwneud ag addasu’r ystâd, adolygu gweithdrefnau, a chynllunio gwasanaethau at y dyfodol.

4. Yn olaf, os bydd y Senedd yn deddfu ar gyfer Diwygio’r Senedd, yna bydd angen i’r Comisiwn, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, helpu i gyfleu unrhyw newidiadau etholiadol i’r cyhoedd cyn etholiad y Senedd yn 2026.