Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi gwneud ynglŷn ag effaith chwyddiant bwyd ar gynllun prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd sydd rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru?
Y cyllid sy’n cael ei roi i awdurdodau lleol ar hyn o bryd i ddarparu’r cynnig prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgol gynradd yw £2.90 y pryd ar gyfer pob disgybl. Rwyf wedi ymrwymo i adolygu’r gyfradd uned hon, a bydd hyn yn cynnwys ystyried effaith chwyddiant bwyd. Mae’r adolygiad ar y gweill a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno’n nes ymlaen yn y flwyddyn.
Mae cinio ysgol am ddim yn cael ei ddarparu i bob disgybl mewn ysgolion cynradd a gwneir hyn mewn cydweithrediad â Siân Gwenllian AS, aelod arweiniol dynodedig Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.