WQ88348 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/05/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch ymestyn y rhestr o grwpiau sy’n gymwys ar gyfer brechlyn Hepatitis B i gynnwys gweithwyr gwirfoddol gwasanaethau achub ar fynydd?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 02/06/2023

Rydym yn parhau, yng Nghymru, i gael ein harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor clinigol a gwyddonol diweddaraf o ran amseru a chymhwysedd ein rhaglenni brechu. Mae grwpiau cymhwysedd ar gyfer y rhaglen Hepatitis B ar gael ym Mhennod 18 o Lyfr Gwyrdd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, sef y canllaw i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweinyddu brechlynnau yn y DU.

Nid yw rhan alwedigaethol cyngor brechu Hepatitis B yn rhan o'r rhaglen imiwneiddio genedlaethol, ac mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynghori, o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, bod rhaid i gyflogwyr dalu am fesurau amddiffynnol fel imiwneiddio.

Er fy mod yn cydnabod y rôl amhrisiadwy y mae gweithwyr gwirfoddol y gwasanaeth achub mynydd yn parhau i'w chwarae, mae brechu ar gyfer y garfan hon y tu allan i'r rhaglen genedlaethol ac, oherwydd hynny, nid yw'n rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei ariannu, yn enwedig yng nghyd-destun yr amgylchedd ariannol hynod heriol presennol.