Pa bryd fydd y Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth newydd yn seiliedig ar y Papur Gwyn ar fysiau fydd yn arwain at ail-reoleiddio a gwell cynllunio gwasanaethau?
Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 10/05/2023
Nododd y Prif Weinidog yn ei Ddatganiad Deddfwriaethol fis Gorffennaf y llynedd, ein huchelgais i gyflwyno Bil, yn seiliedig ar gynigion y papur gwyn Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn, yn ystod trydedd flwyddyn y Senedd hon.