WQ88070 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/04/2023

Beth ydy'r amserlen ar gyfer datblygu cynlluniau teithio llesol yng Ngwynedd, yn benodol yr A470 rhwng Mallwyd a Dinas Mawddwy a'r A494 rhwng y Bala a Llanuwchllyn?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 09/05/2023

Mae rhaglen bresennol Llywodraeth Cymru o gynlluniau cefnffyrdd teithio llesol yn cefnogi llwybrau Cyngor Gwynedd o amgylch Bangor, Blaenau Ffestiniog a Phenrhyndeudraeth. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, Cyngor Gwynedd yw’r unig Gyngor yng Nghymru nad yw ei fap Rhwydwaith Teithio Llesol wedi’i gymeradwyo.

Nid oes unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer y llwybrau uchod gan nad ydynt wedi’u pennu fel rhai â blaenoriaeth o fewn gwaith Mapio Teithio Llesol Cyngor Gwynedd. Caiff ardaloedd eraill eu hystyried o fewn ein rhaglen fwy hirdymor.