WQ88057 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/04/2023

A wnaiff y Comisiwn awdurdodi diwrnodau gwyliau blynyddol ychwanegol i'r gweithwyr hynny sy'n teithio dramor am wyliau drwy deithio mewn ffyrdd heblaw am hedfan, fel rheilffyrdd a coestsys, i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 05/05/2023

Janet Finch-Saunders AS ar ran Comisiwn y Senedd:

Nid oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno cynigion yn ymwneud â gwyliau blynyddol ychwanegol yn amodol ar ddulliau teithio.

Amcan Senedd Cymru yw bod yn esiampl o ran perfformiad amgylcheddol a chynaliadwyedd.  Fel un o'r sefydliadau cyhoeddus mwyaf blaenllaw yng Nghymru, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac rydym yn gweithredu mewn modd amgylcheddol gyfrifol ym mhob un o'n gweithgareddau. Mae gennym Strategaeth Carbon Niwtral ar waith (ein trydedd strategaeth, sy’n rhedeg tan 2030), sy’n cynnwys ystod o dargedau heriol ar gyfer lleihau ein defnydd o ynni a’n hallyriadau ymhellach. Dylid nodi bod y Senedd yn gweithredu ar hanner yr ôl troed carbon a oedd gennym pan ddechreuon ni.