Pa grantiau sydd ar gael i blant ysgol yng ngogledd Cymru i ymweld â'r Senedd ym Mae Caerdydd?
Mae cymorth ariannol â chostau teithio ar gael i ysgolion a cholegau sy'n cymryd rhan mewn ymweliadau addysg. Mae'r cymhorthdal hwn o £1 y filltir ar gael i ysgolion a cholegau sy'n teithio o radiws o 10 milltir neu fwy o adeilad y Senedd ac sydd yn cymryd rhan mewn sesiwn addysg lawn sy'n para rhwng awr a hanner a dwy awr, ac sy'n cynnwys gweithgaredd yn y Ganolfan Addysg. Nid yw'r cymorth ariannol ar gael i ysgolion a cholegau sy'n ymweld yn unig â'r Senedd, neu’n cymryd rhan mewn taith o amgylch yr adeilad heb dderbyn y sesiwn addysg lawn.
Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu yn adolygu'r broses archebu, cyn rhyddhau'r gyfres nesaf o slotiau sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf (o fis Medi 2024), a fydd yn cael eu rhyddhau ym mis Mai 2024. Bydd hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol ynghylch y cymorth ariannol ei hun.
Rydym yn awyddus i glywed gan Aelodau ar y mater hwn. Dros yr wythnosau nesaf bydd gwybodaeth am sut y gallwch chi ac Aelodau eraill ddweud eich dweud ar y mater hwn yn cael ei chyfathrebu.