WQ87845 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r galw am therapi lleferydd ac iaith yn y dyfodol, o ystyried mai anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yw'r math mwyaf cyffredin o anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 29/03/2023

Mae therapi lleferydd ac iaith yn wasanaeth pwysig i blant ledled Cymru. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am adolygu a chynllunio eu darpariaeth ddysgu ychwanegol, a Byrddau Iechyd yn cynllunio eu gweithlu ar sail patrymau demograffig. Ar 30 Medi 2022, roedd nifer y therapyddion lleferydd ac iaith cymwysedig a oedd wedi’u cyflogi gan y GIG wedi cynyddu 14.6% i 530.4 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ers 30 Medi 2017. Bob blwyddyn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu argymhellion ar lefel y lleoedd hyfforddi newydd mewn gofal iechyd, ar sail Cynlluniau Tymor Canolig Integredig byrddau iechyd a gwybodaeth ehangach am y gweithlu.

Nod ‘Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu’, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, yw ysgogi gwelliant yn y ffordd y mae plant yng Nghymru yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys polisi addysg, polisi iechyd a pholisi cymdeithasol, gan adeiladu ar bolisïau presennol a’r hyn sy’n gweithio. Cafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, ac mae’n amlinellu rhaglen waith Llywodraeth Cymru i wella’r gefnogaeth lleferydd, iaith a chyfathrebu i blant 0 i 4 oed 11 mis.

Mae Cronfa Datblygiad Plant Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £18 miliwn i awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag oedi yn natblygiad plant o dan bump oed, gan gynnwys dirywiad mewn sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu, oedi yn natblygiad sgiliau motor manwl a bras, ac o ran datblygiad personol a chymdeithasol.