Beth yw rôl y Gweinidog ym mhenodiad Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil?
Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 27/03/2023
Byddaf yn penodi Prif Weithredwr cyntaf y Comisiwn yn unol ag Atodlen 1 i Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 sy’n datgan:
(1) Mae’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr y Comisiwn i’w benodi gan Weinidogion Cymru —
(a) ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a 5 phensiwn) a benderfynir gan Weinidogion Cymru, a
(b) am gyfnod o hyd at 4 blynedd.
(2) Y Comisiwn sydd i benodi (neu ailbenodi) person yn brif weithredwr wedi hynny, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.