Yn dilyn ateb y Gweinidog i gwestiwn am benodiad Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2023, a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar pam nad oes modd cadarnhau a oes Prif Weithredwr wedi ei benodi ai peidio?
Dros y misoedd diwethaf, mae ymgeiswyr posibl ar gyfer swydd Prif Weithredwr y Comisiwn wedi bod yn cymryd rhan mewn proses ddethol drwyadl, gan gynnwys amrywiol asesiadau a chyfweliadau. Daeth y broses hon i ben yn gynharach y mis hwn. Yn anffodus, nid oedd modd i’r panel recriwtio argymell ymgeisydd i’w benodi ar ddiwedd y broses.
Mae’n hanfodol sicrhau bod y person cywir, sydd â’r sgiliau, y gwerthoedd a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl hollbwysig hon, yn cael ei benodi i arwain y Comisiwn newydd. Rwyf felly wedi gofyn i’m swyddogion ystyried yr opsiynau ynghylch y broses benodi, ac rwy’n disgwyl medru amlinellu’r camau nesaf dros yr wythnosau i ddod.