WQ87771 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/03/2023

Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr afonydd a moroedd yn ardal Canol De Cymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 23/03/2023

Mae diogelu a gwella ein hamgylchedd dŵr yng Nghanol De Cymru ac ar draws Cymru yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon.

Ar hyn o bryd mae 44% o afonydd Cymru’n bodloni gofynion statws ecolegol da, ond mae angen i ni wneud mwy. Bydd buddsoddiad, ffactorau deddfwriaethol a chymorth sy’n sbarduno newid ynghyd â fframwaith rheoleiddio cadarn yn hwyluso gwelliannau a arweinir gan dystiolaeth yn ansawdd dŵr afonydd. Mae Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn creu fframwaith cyffredinol ar gyfer rheoli dŵr, gan helpu i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd dŵr. Sefydlwyd y Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd er mwyn sbarduno gwelliannau yn ansawdd dŵr afonydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn arwain dull o greu dalfeydd integredig sy’n canolbwyntio ar gydweithredu amlsector. Yn gynharach y mis hwn gwnaeth y Prif Weinidog gynnull yr Uwchgynhadledd ar Ffosffadau er mwyn dwyn ynghyd bawb a all gyfrannu at y gwaith o leihau llygredd mewn afonydd. Ar 20 Mawrth cyhoeddodd y Prif Weinidog Ddatganiad Ysgrifenedig ynghyd â Chynllun Gweithredu a gymeradwywyd gan fynychwyr yr Uwchynhadledd. Gallwch weld y Datganiad Ysgrifenedig ar-lein yn  Datganiad Ysgrifenedig: Yr Ail Uwchgynhadledd Llygredd Afonydd (20 Mawrth 2023) | LLYW.CYMRU a gallwch weld y Cynllun Gweithredu ar-lein yn Cynllun gweithredu uwchgynhadledd llygredd afonydd | LLYW.CYMRU

Yn ein moroedd, rydym wedi cyflawni Statws Amgylcheddol Da yn asesiad 2019 o ran dangosyddion ewtroffigedd a halogion fel y nodir yn Rhan Un Strategaeth y Môr y DU, sydd ar gael ar-lein yn  Marine Strategy Part One: UK updated assessment and Good Environmental Status (publishing.service.gov.uk). Er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal hyn mae Llywodraeth Cymru’n cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig eraill er mwyn cyflwyno mesurau yn y Rhaglen o Fesurau a fydd yn cael ei chyhoeddi’n fuan.