WQ87747 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2023

A wnaiff y Comisiwn archwilio'r potensial ar gyfer arddangos gweithiau celf o arwyddocâd cyfoes neu barhaus i Gymru yn y prif ystafelloedd pwyllgor neu fannau cyhoeddus eraill y gellir eu gweld yn adeilad y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 06/04/2023

Mae’r Senedd yn cynnal rhaglen flynyddol o arddangosfeydd ar draws y tri gofod arddangos cyhoeddus pwrpasol, sef: Yr Oriel, Oriel y Dyfodol a’r gornel Curiad yn y Neuadd. Mae’r arddangosfeydd hyn yn canolbwyntio ar naill ai godi materion sy’n ymwneud â busnes y Senedd neu arddangos rhagoriaeth Gymreig

Mae gosodiad yr ystafelloedd pwyllgor, gan gynnwys amlygrwydd y ffenestri gwydr, yr angen i osgoi niweidio ffabrig yr adeilad a'r rheidrwydd i osgoi ymyrryd â busnes i gyd yn effeithio ar yr hyn sy'n bosibl.

Yn ogystal â'r rhaglen flynyddol ar draws y tri gofod, rydym hefyd yn cydweithio â’r Llyfrgell Genedlaethol i guradu corff o waith celf, a gaiff ei newid bob 18 mis, ar gyfer coridorau’r Aelodau yn Nhŷ Hywel, gan nad ydym yn berchen ar gasgliad celf parhaol.

Yn 2019 fe wnaethom gomisiynu Angharad Pearce Jones, sy’n artist o Gymru, i ddylunio dau gerflun pwrpasol ar gyfer y Senedd i gyfoethogi taith ymwelwyr â’r Senedd drwy roi gwybod iddynt pwy yw eu Haelodau a beth mae’r Senedd yn gyfrifol amdano, ac i ategu pensaernïaeth yr adeilad. I gyd-fynd â’r cerfluniau mae fideo ble mae’r artist yn egluro’r broses greadigol sy’n gefndir i’r gwaith.

Gallai’r Comisiwn edrych ar y posibilrwydd o gael rhagor o gydweithredu, ond rhaid nodi’r cyfyngiadau presennol.