WQ87701 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2023

Ydy Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymyrryd i newid lefel y tâl mae Dŵr Cymru yn medru codi ar Severn Trent Water am ddŵr o Gwm Elan?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 16/03/2023

Mae cytundeb cronfa ddŵr Cwm Elan yn cael ei reoli gan gyfres o drefniadau contractiol ac ariannol cymhleth, hirdymor rhwng Dŵr Cymru Welsh Water a Severn Trent Water. Mae angen sêl bendith y ddwy ochr cyn newid y contract.

Lluniwyd y contract cyn y setliad datganoli ac o'r herwydd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau ffurfiol i newid telerau'r contract. Rydym, serch hynny, yn ystyried sut y gellir diwygio cytundebau masnachu fel eu bod yn adlewyrchu’n well yr   amgylchiadau cyfredol ac amgylchiadau yn y dyfodol mewn perthynas â rheoli adnoddau dŵr.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chwmnïau dŵr Cymru, rheoleiddwyr a phartneriaid eraill ar ystod eang o faterion, gan gynnwys materion sy’n gysylltiedig â rheoli adnoddau dŵr.

Rhaid i unrhyw ddatblygiad sy'n defnyddio dŵr o Gymru ddangos bod iddo fanteision economaidd, amgylcheddol ac ehangach i bobl Cymru, yn ogystal â sicrhau bod digon o ddŵr yn y dyfodol i'r rheini y bydd arnynt ei angen. Rhaid i gwmnïau dŵr sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru ddilyn egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru ac mae gan Weinidogion Cymru rôl statudol yn y broses gymeradwyo ar gyfer unrhyw gynlluniau.

Bydd unrhyw gynigion a fydd yn effeithio ar Gymru yn ystyried buddiannau ac anghenion Cymru, yn benodol, sicrhau bod ei hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy, bod deddfwriaeth Cymru yn cael ei gweithredu a’i gofynion polisi yn cael eu bodloni, gan gynnwys sut mae unrhyw gynigion yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ogystal â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.