WQ87692 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/03/2023

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi cael gyda chwmniau dwr i drafod cynlluniau trosgwlyddo dŵr o Gymru i Loegr?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 16/03/2023

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chwmnïau dŵr Cymru, rheoleiddwyr a phartneriaid eraill ar ystod eang o faterion, gan gynnwys materion sy’n gysylltiedig â rheoli adnoddau dŵr.

Rhaid i unrhyw ddatblygiad sy'n defnyddio dŵr o Gymru ddangos bod iddo fanteision economaidd, amgylcheddol ac ehangach i bobl Cymru, yn ogystal â sicrhau bod digon o ddŵr yn y dyfodol i'r rheini y bydd arnynt ei angen. Rhaid i gwmnïau dŵr sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru ddilyn egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru ac mae gan Weinidogion Cymru rôl statudol yn y broses gymeradwyo ar gyfer unrhyw gynlluniau.

Bydd unrhyw gynigion a fydd yn effeithio ar Gymru yn ystyried buddiannau ac anghenion Cymru, yn benodol, sicrhau bod ei hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy, bod deddfwriaeth Cymru yn cael ei gweithredu a’i gofynion polisi yn cael eu bodloni, gan gynnwys sut mae unrhyw gynigion yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ogystal â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.

Mae dyletswydd statudol ar y cwmnïau dŵr i ddarparu cyflenwad diogel o ddŵr. Mae Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr yn dangos sut y bydd cwmnïau yn mynd ati mewn ffordd gynaliadwy i ateb y galw am ddŵr dros y 25 mlynedd nesaf. Rhaid i’r cwmnïau dŵr ystyried pob opsiwn, gan gynnwys rheoli’r galw ac unrhyw seilwaith ar gyfer adnoddau dŵr.

Mae Ofwat, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyhoeddi canllawiau ar y cyd ac egwyddorion cynllunio sy'n amlinellu’n disgwyliadau. Ymhlith y disgwyliadau hynny y mae’r gofyniad i asesu’r ystyriaethau isod os ceir cynnig i lunio cytundeb newydd i drosglwyddo dŵr (neu os ceir cynnig i addasu cytundeb o’r fath sydd eisoes yn bod):

  • Anghenion y bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, gan gynnwys anghenion a blaenoriaethau economaidd, cymunedol ac amgylcheddol, yn ogystal â’r manteision iddynt.
  • Y targedau datgarboneiddio statudol a bennwyd ar gyfer Cymru.
  • Y risgiau o ran yr effaith ar yr hinsawdd.
  • Y risg o ddirywiad i statws corff dŵr (a bennir drwy Reoliadau Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017); y risg o achosi unrhyw effeithiau andwyol i safleoedd cynefinoedd dynodedig; y risg o rwystro bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau.
  • A oes digon o ddŵr ar gyfer y defnyddwyr presennol a defnyddwyr y dyfodol, gan ganiatáu ar gyfer twf a datblygiad.

Os bydd unrhyw opsiynau masnachu dŵr yn cael eu hystyried yn y Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda CNC a'r cwmnïau i sicrhau bod adnoddau dŵr yn cael eu rheoli a'u defnyddio'n gynaliadwy a bod unrhyw gynigion posibl i fasnachu dŵr yn diogelu cyflenwadau dŵr cyhoeddus, defnyddwyr dŵr eraill a'r amgylchedd yng Nghymru. Bydd y Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr yn cael eu cyflwyno i'w hystyried yn ddiweddarach yn y flwyddyn.