Pa gamau y mae Llywdodraeth Cymru wedi cymryd i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o pandemig yn deillio o ffliw adar H5N1?
Mae'r posibilrwydd o bandemig ymhlith pobl, sy'n deillio o ffliw adar H5N1, wedi cael ei drafod gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU, ac mae'n cael ei fonitro'n agos gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys y risg yn y DU a chynnal gwyliadwriaeth ar achosion sy'n codi y tu allan i'r DU.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gynnal trefn arferol o brofi pob claf â chyflwr anadlol sy’n cael ei dderbyn i Unedau Gofal Dwys er mwyn canfod unrhyw fath o ffliw (gan gynnwys ffliw adar) ac mae’r sefydliad yn cael ei gynrychioli yng nghyfarfodydd grwpiau rheoli achosion a grwpiau technegol o dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Asesiad risg diweddaraf Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yw mai clefyd adar yn bennaf yw ffliw adar a bod y risg i iechyd y cyhoedd yn gyffredinol yn isel iawn.
Dim ond un o nifer o fygythiadau yr ydym yn paratoi'n barhaus ar eu cyfer fel rhan o'n gwaith cynllunio ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol yw ffliw adar.