Ymhellach i WQ87249, a wnaiff y Gweinidog restru canolfannau triniaeth rhanbarthol neu canolfannau arbenigedd y mae byrddau iechyd wedi cyflwyno fel opsiynau posib i'r Llywodraeth?
Fel y nodwyd yn yr ymateb i WQ87249, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu capasiti ychwanegol yn y GIG fel rhan o gyflawni’r cynllun adfer cenedlaethol. Nid yw’n briodol, ar hyn o bryd, restru meysydd sydd yn y cam cynllunio o hyd, ond rwyf wedi rhestru meysydd lle mae’r gwaith eisoes wedi’i gwblhau.
Cynnydd hyd yn hyn yn ystod 2022-23.
· Yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ailddylunio a chanoli capasiti ar gyfer gofal orthopedig a gynlluniwyd, ac mae mwy o theatrau a wardiau ar gael. Bydd hyn yn gwbl weithredol ym mis Mehefin 2023.
· Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi sefydlu theatrau achosion dydd yn Ysbyty Tywysog Phillip er mwyn cynyddu capasiti ar gyfer triniaethau achosion dydd. Bydd hyn yn galluogi’r bwrdd iechyd i ymdrin â 4,600 o achosion yn rhagor y flwyddyn.
· Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyda buddsoddiad ychwanegol er mwyn darparu adnoddau pwrpasol ar gyfer llwybrau ophthalmig, a hynny drwy uned symudol ychwanegol sydd wedi’i lleoli ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae mynediad at wasanaethau wedi cael ei ehangu fel bod modd trin cleifion sydd ar lwybrau ophthalmeg, o bob rhan o ranbarth De-ddwyrain Cymru, sydd wedi bod yn aros am amser hir.
· Roeddwn yn falch o gyhoeddi, ar 15 Chwefror, y ganolfan diagnosteg a thriniaeth newydd gyntaf ar gyfer rhanbarth De-ddwyrain Cymru, yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.
Rwy’n disgwyl gwneud rhagor o gyhoeddiadau yn ystod 2023-24 wrth i gynlluniau’r GIG gael eu cadarnhau ar draws pob rhanbarth i gyflawni’r ymrwymiadau yn ein cynllun adfer cenedlaethol.