Faint sydd wedi'i wario hyd yma ar ddarparu cynhyrchion mislif ar ystâd y Senedd a beth yw cost barhaus ddisgwyliedig y fenter hon?
Joyce Watson AS ar ran Comisiwn y Senedd:
Ar ôl ystyried cynnig gan gydweithwyr yr Undebau Llafur, cytunodd Bwrdd Gweithredol y Comisiwn i ddarparu cynhyrchion mislif am ddim ar ystâd y Senedd i unrhyw un sydd eu hangen o 2 Rhagfyr 2022.
Mae costau darparu cyflenwadau (gan gynnwys stoc nas defnyddiwyd eto) ar gyfer y gwasanaeth hwn hyd yma yn £4,300. Mae'r Senedd wedi cael gwared ar y peiriannau gwerthu glanweithiol a oedd ar brydles yn flaenorol ar gost o £5,000 y flwyddyn. Bydd costau'r ddarpariaeth yn cael eu gwrthbwyso'n rhannol gan yr arbedion hyn.
Gan ei fod yn wasanaeth newydd, bydd y Comisiwn yn monitro costau'r gwasanaeth hwn yn weithredol dros y flwyddyn, yn seiliedig ar ddefnydd a darpariaeth cyflenwadau.