WQ87479 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2023

Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd a phartneriaid eraill am effaith toriadau mewn gwasanaethau bysiau ar bentrefi lled-wledig yng ngogledd y brifddinas?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 21/02/2023

Mae swyddogion yn cwrdd yn rheolaidd â chyrff y diwydiant ac awdurdodau lleol i drafod y setliad ariannu ar gyfer cefnogi’r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian argyfwng i’r diwydiant bysiau ers dechrau’r pandemig i gynnal gwasanaethau bysiau hanfodol ar draws cymunedau yng Nghymru wrth i’r defnydd barhau i ailgydio er y cyd-destun o gostau cynyddol.  Ddiwedd Mehefin llynedd, cafodd pecyn arall o £48m o gymorth ei neilltuo ar gyfer y diwydiant bysiau - cyfanswm o ragor na £150m o gyllid ers dechrau’r pandemig.

Ar 10 Chwefror, cyhoeddwyd estyniad i’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau am gyfnod pontio i roi’r sefydlogrwydd tymor byr sydd ei angen ar y diwydiant.

Rydyn ni’n cynnig model newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, er mwyn i ni allu gweithio gydag awdurdodau lleol i ddylunio’r rhwydweithiau bysiau sydd eu hangen ar eu cymunedau a chreu’r contractau ar gyfer eu darparu.  Byddwn yn parhau i gydweithio’n glos â’n prif randdeiliaid gan gynnwys gweithredwyr ac awdurdodau lleol i roi’n cynlluniau ar gyfer masnachfreintio ar waith.