WQ87423 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddenu mwy o ferched i fod yn gynghorwyr sir?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 14/02/2023

Rydym wedi cymryd nifer o gamau i hybu amrywiaeth yn ein cynghorau, gan gynnwys gostwng yr oedran pleidleisio i un ar bymtheg; a gwneud hyblygrwydd y trefniadau ar gyfer cynnal cyfarfodydd cynghorau drwy wahanol ddulliau yn hyblygrwydd parhaol, gan gynnwys cynnal cyfarfodydd yn gyfan gwbl o bell neu’n hybrid. Rydym hefyd wedi cyflwyno peilot sy’n cynnig mynediad at gronfa ar gyfer swyddi etholedig.

Ni yw’r wlad gyntaf yn y DU i weithredu absenoldeb teuluol i gynghorwyr prif gynghorau, gan gynnwys i rieni sy’n mabwysiadu.

Ni hefyd yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno trefniadau rhannu swydd ar gyfer rolau gweithredol. Mae’r adborth i hyn wedi bod yn gadarnhaol, gyda chwe chyngor yn gweithredu trefniadau rhannu swydd ar hyn o bryd. Rydym nawr yn ymchwilio i weld sut y gallwn ymestyn y trefniadau i gynnwys rolau anweithredol uwch megis cadeiryddion pwyllgorau.

Rwyf wedi ysgrifennu at gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ddiweddar i’w hannog i hyrwyddo rôl cynghorwyr yn eu sefydliadau.

Fodd bynnag, er mwyn inni allu adeiladu ar y mesurau hyn, rwyf wedi comisiynu rhaglen ymchwil i ymchwilio i rôl a phrofiadau cynghorwyr yng Nghymru. Mae’r casgliadau wedi cael eu defnyddio fel sail i gyfres o weithdai ar draws Cymru, a fydd yn eu tro yn helpu i benderfynu ar y camau nesaf yn ein gwaith parhaus o fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal menywod a phobl o wahanol gefndiroedd rhag cymryd rhan mewn democratiaeth.