WQ87406 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2023

Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o’r dystiolaeth ddiweddaraf ynglŷn a budd cynnig atchwanegion fitamin D fel modd o geisio atal cyflyrau difrifol?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant | Wedi'i ateb ar 14/02/2023

Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pawb i ystyried cymryd atchwanegion fitamin D (10 microgram) rhwng mis Hydref a dechrau mis Mawrth er mwyn cadw eu hesgyrn a’u cyhyrau yn iach. O tua diwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Medi, dylai’r rhan fwyaf o bobl allu cael yr holl fitamin D y mae ei angen arnynt drwy gael golau’r haul yn uniongyrchol ar eu croen pan fyddant yn yr awyr agored, ond yn ystod y gaeaf nid ydym yn cael digon o fitamin D o olau’r haul.

Nid yw rhai pobl yn cael digon o fitamin D o olau’r haul gan nad yw eu croen yn cael ond ychydig bach o haul, neu nad ydynt yn cael dim haul o gwbl. Mae Llywodraeth Cymru yn argymell cymryd atchwanegiad bob dydd sy’n cynnwys 10 microgram o fitamin D drwy gydol y flwyddyn os yw un o’r canlynol yn berthnasol ichi:

  • Nid ydych yn mynd allan yn yr awyr agored yn aml – er enghraifft, os ydych yn fregus neu’n methu symud o’r tŷ
  • Rydych mewn sefydliad megis cartref gofal
  • Rydych yn gwisgo dillad sy’n cuddio’r rhan fwyaf o’ch croen pan fyddwch yn mynd allan o’r tŷ.

Hefyd, mae’n bosibl nad yw’r rheini sydd â chroen tywyll – er enghraifft pobl sy’n dod o gefndir Affricanaidd, Affricanaidd-Caribïaidd, neu Dde Asiaidd – yn cael digon o fitamin D o olau’r haul.

Mae adroddiadau ar gael sy’n dweud y gallai fitamin D leihau’r risg o ran dioddef heintiau anadlol acíwt. Mae NICE a’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faetheg (SACN) wedi cyhoeddi papurau ar fitamin D yn 2020:

SACN: Update of rapid review: Vitamin D and acute respiratory tract infections (publishing.service.gov.uk)

NICE: https://www.nice.org.uk/advice/es28/chapter/Key-messages

Mae papur SACN ar fitamin D yn adolygiad cyflym o’r dystiolaeth wyddonol ynglŷn â heintiau acíwt y system anadlu, yn sgil adroddiadau yn y cyfryngau a nifer o gyhoeddiadau academaidd sy’n awgrymu y gallai fitamin D leihau’r risg COVID-19.

At ei gilydd, mae’r dystiolaeth a ystyriwyd yn awgrymu y gallai fod rhywfaint o fudd o gymryd ychwanegion dos isel o fitamin D er mwyn lleihau’r risg o ddioddef y math hwn o haint. Mae’n bosibl bod y fantais a allai ddeillio o gymryd fitamin D ar gyfer lleihau’r risg haint anadlol yn fach. Mae SACN yn argymell bod y cyfeiriad sy’n ymwneud â maetheg y dos fitamin D yn parhau heb ei newid.

Nid yw’r casgliadau hyn yn cael unrhyw effaith ar gyngor presennol y Llywodraeth ar fitamin D, ac felly mae prif reswm Llywodraeth Cymru dros argymell atchwanegion yn parhau i ymwneud ag iechyd cyhyrysgerbydol.