WQ87398 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2023

A wnaiff y Llywodraeth rannu unrhyw wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru ei chasglu neu'n ei dal sy'n asesu diogelwch adeiladau ystad y GIG yn flynyddol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 14/02/2023

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Ystad Arbenigol (NWSSP-SES) yn casglu data i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ynglŷn â pherfformiad a chyfleusterau ystadau yn ystod y flwyddyn flaenorol. Gweler adroddiad dangosfwrdd System Rheoli Perfformiad Ystadau a Chyfleusterau 2021-22 sydd wedi ei atodi. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddata perfformiad ystadau allweddol, ac mae adroddiad data atodol manwl hefyd yn cael ei rannu â sefydliadau’r GIG ar gyfer meincnodi pryniadau naill ai ar draws ystâd y bwrdd iechyd unigol neu ar draws sefydliadau.

Cyn adroddiad y flwyddyn nesaf, bydd gwaith yn mynd rhagddo i nodi’r prif risgiau ar draws ystad GIG Cymru ac i wella cysondeb y data ar draws sefydliadau. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan NWSSP-SES ac Uned Cyflawni Cyllid GIG Cymru. Oherwydd y pwysau ar gyllid cyfalaf, mae’n hanfodol bod unrhyw gyllid yn cael ei flaenoriaethu a’i dargedu mewn modd sy’n sicrhau ei fod yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

https://nwssp.nhs.wales/ourservices/specialist-estates-services/specialist-estates-services-documents/ses-miscellaneous-documents/efpms-21-22-national-dashboard-final/